Sut i Greu Diwylliant o Gydweithredu Academaidd ar gyfer eich Busnes
Sponsored by
KESS 2, led by Bangor University
Oct 31 | 6 minutes read
Mae cydweithredu yn ganolog i unrhyw fusnes llwyddiannus y dyddiau hyn. Daeth diwedd ar y dyddiau o lwybr unllygeidiog, unigol, llinol i lwyddiant. Nawr, mae creu gwerth ac arloesi yn tarddu o ecosystem busnes ble mae sefydliadau yn cydweithio gyda’u partneriaid, cwsmeriaid, cyflenwyr a sefydliadau eraill.
Er gwaethaf y brwdfrydedd hwn i gydweithredu ar draws diwydiant a disgyblaethau, dim ond nifer fechan o fusnesau sy’n ymgysylltu â’r byd academaidd fel ffynhonnell arloesi ac ysbrydoliaeth.
Trechu rhwystrau rhag ymchwil
Mae’n bosibl bod arweinwyr busnes yn y gorffennol wedi ymatal rhag cysylltu ag addysg uwch, gan ystyried y sefydliadau yn gadarnleoedd gwybodaeth ble nad oedd academyddion yn ymwybodol o fyd go iawn trobwll byd busnes.
Mae hyn oll yn newid, wrth i brifysgolion agor eu drysau i ddiwydiant a chynyddu lefel a nifer y cyfleoedd sydd ar gael i fusnesau o bob maint.
Yn y Deyrnas Unedig, fe ymddengys y bydd y twf hwn yn parhau, oherwydd mae’r llywodraeth wedi cyhoeddi’n ddiweddar bod cydweithrediad rhwng y byd academaidd a diwydiant yn ganolog i’w strategaeth ymchwil ac arloesi newydd.
Mae hyn wedi ei bwysleisio ymhellach gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) yn ei weledigaeth newydd i Gymru, ble roedd yn rhestru rhagoriaeth ymchwil, partneriaethau, arloesi a chydweithredu fel pedair colofn a fydd yn ysgogi ffyniant economaidd a llesiant cymdeithasol ar draws y wlad, y Deyrnas Unedig a thu hwnt.

Mae canlyniadau’r ymdrechion hyn eisoes yn drawiadol – maent yn hybu arloesi ac yn creu marchnadoedd newydd. Yn ôl yr UKRI, mae cwmnïau llai o faint yn elwa’n benodol ar gydweithrediad gyda phrifysgolion o ran arloesi.
Gwerth cydweithredu ar ymchwil ac arloesi
Ar gyfer cwmnïau llai o faint, mae cydweithrediad gyda phrifysgolion lleol yn sicrhau cynnydd o 7.1 y cant yn y tebygolrwydd o arloesi gan gwmnïau newydd i’r farchnad. Mae’r rhifau’n dal yn drawiadol ar gyfer sefydliadau canolig, sef 6.8 y cant, a chwmnïau mwy o faint, sef 3.8 y cant.
Mae rôl prifysgolion fel ysgogwyr arloesi yn cael ei gydnabod fwyfwy, gyda ffigurau’n amlygu rôl cydweithrediad rhwng prifysgolion a busnes fel ysgogiad i ddatblygiad economaidd lleol.
Tu hwnt i ddim ond sefyllfa ariannol cwmni, mae cydweithrediadau hefyd yn fuddiol i gymdeithas yn gyffredinol; maent yn helpu ymchwilwyr ôl-raddedig i gael profiad perthnasol ac maent yn sicrhau eu bod yn cyrraedd y gweithle yn gwbl barod. Heb sôn am y ffaith fod partneriaethau academaidd wedi bod wrth wraidd rhai o’r arloesiadau mwyaf arwyddocaol o ran llunio cymdeithas ym mhopeth o feddygaeth i dechnoleg a newid hinsawdd.
Gyda gwerth ymchwil ac arloesi yn cael ei gydnabod ar bob lefel o gymdeithas – o BBaChau i’r polisi cyhoeddus – mae mwy o fusnesau yn ehangu eu gorwelion ac yn ystyried sut allant fod yn rhan o’r cyffro.
I nifer o arweinwyr diwydiant, efallai nad yw cydweithredu academaidd wedi bod yn flaenllaw yn eu meddyliau o ran datrys problemau a gyrru busnes ymlaen. Ond bydd newid mewn meddylfryd tuag at gofleidio’r cyfleoedd hyn yn debygol o gynnig manteision parhaus, a gallai dalu ar ei ganfed.
Canfod partneriaeth sy’n gweddu
Gall gwaith tîm gyda’r byd academaidd fod yn broses ddigon syml; mae prifysgolion eisoes yn gweithio’n agos gyda busnesau i dyfu diwylliant cydweithredu unrhyw ddiwydiant. Dechreuwch yn fach neu ewch am brosiect mawr – mae’r dewis yn ddibynnol ar anghenion penodol cwmni a dylid teilwra prosiectau cydweithredol i ddatrys y mater maent yn ei brofi, beth bynnag fo hynny.
Mae addysg uwch a chyrff llywodraethu ill dau yn cydnabod y gwerth cynhenid mewn partneriaethau rhwng academia a diwydiant, ac wrth i’r rhain gynyddu o ran graddfa a nifer ar draws y tirlun addysg uwch, mae’n dod yn haws ac yn llai cymhleth i lywio ceisiadau cyllid.
Mae cynlluniau fel Ysgoloriaethau Sgiliau’r Economi Wybodaeth (KESS 2) yn cefnogi cydweithrediad academaidd fel colofn graidd mewn busnes, yn hytrach nag fel rhywbeth sy’n dilyn.
Manteisio ar adnoddau ymchwil ac arloesi
Mae prifysgolion yn y Deyrnas Unedig wedi eu rhoi eu hunain ar y map fel arweinwyr byd-eang ym maes ymchwil ac arloesi. Gyda dim ond 0.9 y cant o boblogaeth y byd, ond 4.1 y cant o ymchwilwyr, mae’r wlad yn atebol am 10.7 y cant o gyfeiriadau a 15.2 y cant o’r erthyglau a ddyfynnir fwyaf yn y byd.
Mae’r ymchwil academaidd yma ar lefel uchel, ynghyd ag ecosystem arloesi gadarn – gyda chefnogaeth seilwaith ffisegol a digidol, talent o’r radd flaenaf ac amgylchedd rheoleiddiol galluogol – wedi gosod y Deyrnas Unedig yn y pump uchaf o wledydd arloesi byd eang.
Mae KESS 2 yn gweithio i ddefnyddio’r galluedd yma sydd o’r radd flaenaf, gan gysylltu busnesau gydag arbenigedd academaidd. Mae’r fenter yn paru sefydliadau unigol gydag academyddion ac ymchwilwyr ôl-raddedig PhD neu Feistr Ymchwil mewn maes perthnasol.

Dan arweiniad Prifysgol Bangor ar ran y sector AU yng Nghymru (yn cynnwys holl Brifysgolion Cymru mewn partneriaeth) mae’r fenter yn gofyn i academyddion ac ymchwilwyr ôl-raddedig weithio gyda’r cwmni i ddeall a chanfod atebion i fater penodol neu faes datblygu maent yn awyddus i’w archwilio.
Manteision cydweithrediad ymchwil i bawb
Y fantais uniongyrchol amlwg i hyn yw bod yr ymchwilydd ôl-raddedig yn cael profiad gwerthfawr o ddiwydiant, tra bod y sefydliad yn cael datrysiadau ymarferol sy’n gallu mynd â’u busnes i’r lefel nesaf.
Mae prosiectau wedi eu cynllunio mewn partneriaeth agos gyda’r cwmni, felly mae’n bosibl canfod yr arbenigedd allai fod ar goll yn fewnol a chael syniadau newydd ar broblemau – un o’r manteision mwyaf o gael safbwynt newydd.
Gydag adnoddau sylweddol a gwybodaeth ragorol addysg uwch ar gael iddynt, nid yw’n cymryd fawr ddim amser i gyfranogwyr ar y cynllun KESS 2 weld rhai manteision sylweddol gwirioneddol.
Mae’r elw posibl yn dilyn y prosiect yn llawer mwy na chost y prosiect ei hun. Gall y syniadau newydd arloesol a’r arbenigedd ychwanegol sy’n deillio o’r fenter osod busnes ar wahân mewn marchnad orlawn, gan eu sefydlu fel llais awdurdod yn eu maes.
O ystyried fod KESS 2 yn benodol i Gymru, rhaid i’r prosiect ffitio o fewn un (neu fwy) o bedwar Maes Her Fawr Llywodraeth Cymru, sy’n cynnwys Gwyddorau Bywyd ac Iechyd, Uwch Beirianneg a Deunyddiau, Carbon Isel, Ynni a’r Amgylchedd, a TGCh a’r Economi Ddigidol.
Mae gweithio ar y cyd ag ymchwilydd ôl-raddedig ac adran brifysgol yn mynd ymhell o ran tyfu diwylliant ymchwil cydweithredol o fewn cwmni ac mae’n helpu cyflogeion ac arweinwyr i weld potensial newydd.
Mae hyn yn cynyddu capasiti ymchwil BBaChau yn sylweddol ac mae’n annog Prif Swyddogion i weld ymchwil fel elfen fusnes werthfawr. Mae’r gwerthfawrogiad newydd hwn yn parhau ymhell wedi i’r prosiect orffen, wrth i fusnesau gynnal clymau agosach gyda’u prifysgolion lleol a dewis recriwtio mwy o ymchwilwyr i ymuno â’r cwmni.
Mae buddion y diwylliant hwn o gydweithredu yn cyrraedd y tu hwnt i gwmni unigol, gan wella cyflogaeth ymysg graddedigion ac arwain at ddatblygiad technolegau allweddol mewn sectorau ble mae hyn yn angenrheidiol.
Trwy raglenni fel KESS 2, mae cwmnïau yn gynyddol yn cofleidio cydweithrediad academaidd fel rhan allweddol o unrhyw fusnes sy’n tyfu’n llwyddiannus. Nid yw hyn yn fawr o syndod pan fydd canlyniadau cydweithredu o’r fath yn arddangos y potensial i ddatgelu ffrydiau refeniw newydd, sefydlu marchnadoedd newydd, a chreu gwerthfawrogiad yn y gweithlu ar gyfer ymchwil ac arloesi.