EDUCATION FOR CAREERS
  • Executive Education
  • CPD
  • EdTech
  • Research Collaborations
  • Advice
EdTech 2020 Whitepaper

KESS 2, cysylltu academia a diwydiant trwy ymchwil

10 shares

Sponsored by

KESS 2, led by Bangor University

Dec 10  | 6 minutes read

Mae yna elfen o wirionedd i’r ddihareb o’r oes ddigidol sy’n datgan: “arloesi neu farw”.

Methiant i arloesi oedd yr hyn a achosodd i rai o frandiau enwocaf y byd o’r 50au i’r 90au fynd i’r wal yn fuan wedi tro’r ganrif.

Ond mae’r gwir plaen wedi taro i’r rhan fwyaf ers hynny. Heddiw, mae arloesi yn dominyddu penawdau bron i bob stori am lwyddiant busnes.

A dyma wnaeth gyflwyno’r byd busnes i ‘arloesi agored’ yn 2011, cysyniad wedi ei greu gan ddarlithydd yn yr Unol Daleithiau sy’n eirioli dros gau’r bwlch rhwng busnes a’r byd academaidd i hybu arloesi. Yn sail i hyn mae’r ffaith amlwg na allai’r un cwmni, waeth pa mor brofiadol, modern neu fawr arloesi’n effeithiol ar ei ben ei hun.

Mae nifer gynyddol o gwmnïau heddiw yn cydnabod hyn ac yn troi at arloesi agored fel dull mwy proffidiol ac effeithiol o arloesi, mae prifysgolion wedi dod i’r amlwg fel ffynhonnell amhrisiadwy o dalent, technoleg a deallusrwydd technegol.

Ond ble gallai eraill betruso yw peidio gwybod ble i ddechrau.

Nid diffyg diddordeb mewn cydweithredu yw’r rheswm dros hyn, ond yn hytrach y prinder gwybodaeth ar sut i wneud hynny ac absenoldeb un strwythur unigol, trosfwaol sy’n pontio’r ddau fyd.

Ar gyfer busnesau yng Nghymru, mae Ysgoloriaethau Sgiliau’r Economi Wybodaeth (KESS) yn cynnig y strwythur hwnnw.

Ble mae meddwl agored yn cwrdd ag ymchwil gymhwysol

Ymgyrch ledled Cymru a gefnogir gan Gronfeydd Cymdeithasol Ewrop (ESF) trwy Lywodraeth Cymru, KESS yw’r bont y mae mawr ei hangen rhwng diwydiant ac academia.

KESS
KESS 2

Mae’n paru cwmnïau gydag arbenigedd academaidd ar brosiectau ymchwil cydweithredol, gydag ysgolheigion yn gweithio tuag at gymhwyster PhD neu Feitr Ymchwil.

Mae prosiectau wedi eu hintegreiddio gyda rhaglen hyfforddi sgiliau lefel uwch, gydag ysgolheigion yn derbyn arweiniad angenrheidiol o ran sut i lywio rwy leoliad masnachol wrth iddynt ddatblygu eu prosiectau.

Yn gyfle prin i academyddion, sy’n aml yn cael eu beirniadu am ddiffyg craffter masnachol, roedd y fersiwn cyntaf o’r rhaglen a gynhaliwyd o 2009 hyd 2014 yn llwyddiannus iawn, gan gyflawni 230 PhD a 223 prosiect Meistri Ymchwil ar draws y pum mlynedd.

Roedd y prosiectau’n amrywio’n helaeth ac yn torri ar draws disgyblaethau o werth critigol i economi Cymru, o wyddorau bywyd ac iechyd i TGCh a’r economi ddigidol; carbon isel, ynni a’r amgylchedd; ac uwch beirianneg a deunyddiau.

Gyda’r profiad yma tu cefn iddynt, mae cyn fyfyrwyr KESS yn llawn clod i’r rhaglen.

Yn eu mysg mae Jane Davies, neu’n hytrach, Dr Jane Davies fel y’i hadwaenir heddiw, a raddiodd gyda PhD yn 2014 wedi treulio pum mlynedd yn KESS.

Yn ddwfn yn rhengoedd diwydiant

Yn ôl Dr Davies, fe ddechreuodd ei thaith KESS heb unrhyw brofiad blaenorol o weithio yn y sector masnachol.

“Roeddwn i wedi gweithio trwy gydol fy ngyrfa o fewn y GIG, felly roeddwn i’n hollol ddiniwed,” cyfaddefa.

Mae Dr Davies yn nyrs gymwysedig, wedi derbyn ei chofrestriad yn 1997. Treuliodd cryn dipyn o’i gyrfa gynnar yn gweithio ym meysydd llawfeddygaeth fasgwlaidd, gofal sylfaenol a meddygaeth egni yn y Deyrnas Unedig a thramor, cyn ymroi wyth mlynedd i ymchwil.

Yn Hydref 2011, ymunodd Dr Davies â KESS i sicrhau ei PhD a chafodd ei pharu gyda Huntleigh Healthcare, darparwr byd-eang blaenllaw o offer meddygol arloesol ac o safon uchel i weithwyr iechyd proffesiynol.

Yno fe weithiodd ar brosiect i helpu’r cwmni i wella eu dyluniad o ddyfais awtomataidd i helpu cleifion yn dioddef o glefyd rhydwelïol perifferol (PAD), cangen lai adnabyddus o glefyd cardiofasgwlaidd ble mae rhydwelïol yn culhau gan leihau llif y gwaed i’r aelodau.

Problem fawr gyda PAD yw nad yw hyd at ddau draean o ddioddefwyr yn arddangos unrhyw symptomau o’r clefyd, sef poen yn y coesau wrth gerdded fel arfer. Mae hyn wedi arwain at alwadau am ddatrysiad sgrinio PAD sy’n gallu nodi’r achosion hyn i alluogi mesurau ataliol cynnar.

Trwy KESS, gallodd Dr Davies helpu Huntleigh i gyflawni hyn.

Dangosodd ei hymchwil y gallai system Dopplex Ability ABI Huntleigh gymharu darlleniad pwysedd gwaed y fraich a’r ffêr yn effeithiol heb fawr o hyfforddiant, er mwyn nodi arwyddion o PAD yn y claf. Mae hyn yn gwneud sgrinio PAD yn broses llawer mwy hydrin ac yn gwella gofal cleifion.

Mae Dr Davies yn rhoi credyd i’r gefnogaeth a dderbyniodd trwy KESS am ei llwyddiant.

“Fe alluogodd KESS fi i gynllunio fy ymchwil fy hun heb unrhyw gyfyngiad ac o ganlyniad, roeddwn yn gallu cael cynllun cadarn iawn,” esbonia.

Diolch i gyllid KESS, fe ddarparwyd ar gyfer pob un o anghenion y prosiect, o gyllideb teithio a alluogodd Dr Davies i ymweld ag a monitro cleifion roedd wedi eu recriwtio ar gyfer yr astudiaeth, i neilltuo arian i brynu offer.

Rhan bwysig iawn o’m hymchwil oedd fy mod yn awyddus iawn i fynd a gweld y cleifion yr oeddwn wedi eu recriwtio… cleifion a oedd o bosibl yn gaeth i’w cartref ac na fyddai fel arfer yn gallu cymryd rhan mewn ymchwil.

“O ganlyniad i gyllideb deithio KESS, gallwn wneud hynny i gyd. Fe deithiais yn eithaf eang a dwi’n meddwl i hynny wella cryn dipyn ar gasgliadau fy ymchwil,” meddai Dr Davies.

Cydweithrediad sy’n fanteisiol i bawb

Trwy ymchwil Dr Davies a chefnogaeth KESS, gallodd Huntleigh sefydlu eu hunain fel llais awdurdodol o fewn y farchnad.

Roedd y cwmni yn fodlon â chanlyniad y prosiect.

“Roeddem yn gallu cael gafael ar ymchwil gymhwysol am gost cymharol isel, ac fe helpodd hyn ni i wella ein cynnyrch,” meddai Rheolwr Uned Busnes Adran Cynnyrch Diagnostig Huntleigh Dr Jon Evans.

“Roedd y profiad gyda Jane yn wych,” ychwanegodd.

Ar gyfer Dr Davies, mae’r profiad KESS yn parhau i dalu ar ei ganfed heddiw, ac mae wedi mynd tu hwnt i ffiniau’r byd academaidd. Yn fwy na chyflawni ei PhD a chlod academaidd ar gyfer ei hymchwil, mae’r myfyriwr graddedig hefyd wedi elwa o’r cyfleoedd i dderbyn hyfforddiant sgiliau a gafodd trwy’r prosiect.

Yn rhan o’r prosiect KESS, fe wnaeth hyd yn oed dderbyn hyfforddiant siarad cyhoeddus, sydd wedi helpu miniogi ei sgiliau llefaru a rhoi hyder iddi gyflwyno mewn cynadleddau rhyngwladol, dau beth sy’n allweddol i lwyddiant ymchwilydd.

Fel cydweithredu, mae cyfathrebu yn allweddol ym myd gwyddoniaeth ac arloesi. Ar gyfer academyddion, gallai’r gallu i gyflwyno syniadau i ddiwydiant neu’r cyhoedd ar ffurf ddealladwy olygu derbyn cyllid neu beidio.

Ar gyfer Dr Davies, fydd hyn ddim yn broblem mwyach.

“Roedd siarad cyhoeddus… yn broblem fawr i mi. Ond trwy KESS, fe wnes i gwblhau dau gwrs siarad cyhoeddus ac ers hynny, rwy’n teimlo’n llawer mwy parod i gyflwyno mewn cynadleddau rhyngwladol.

“A dweud y gwir dwi wedi ennill rhai gwobrau ar gyfer fy siarad cyhoeddus, felly’n amlwg mae wedi gweithio’n dda,” meddai.

Ers KESS, mae Dr Davies wedi mynd ymlaen i bethau mwy yn ei gyrfa. Mae wedi gweithio fel nyrs ymchwil arweiniol ar gyfer y Ganolfan Ymchwil Treialon a hi hefyd oedd y brif nyrs ymchwil ar nifer o astudiaethau masnachol eraill ar gyfer cwmnïau fferyllol mawr fel y cwmni gofal iechyd amlwladol o’r Swistir, F. Hoffmann-La Roche AG.

Dr Jane Davies (middle). KESS 2

Mae’n annog eraill i ymgeisio ar gyfer KESS, gan ddweud bod yr wybodaeth a sgiliau a enillodd o’r rhaglen wedi helpu ehangu ei phosibiliadau gyrfa.

“Dwi’n ddiolchgar iawn, yn teimlo’n freintiedig iawn i fod wedi llwyddo i sicrhau’r ysgoloriaeth gyda KESS… ac yn sicr mi fyddwn i’n annog unrhyw un sy’n cael cyfle i fynd amdani.”

Mae KESS nawr yn ei ail fersiwn, KESS 2, a fydd yn darparu 645 o ysgoloriaethau dros chwe blynedd. Dan arweiniad Prifysgol Bangor mewn partneriaeth gyda holl brifysgolion eraill Cymru, mae’r rhaglen nawr yn agored i fusnesau ac academia yn y Gogledd, Gorllewin Cymru a Chymoedd De Cymru.

Am ragor o wybodaeth ar y rhaglen, cysylltwch â Rheolwr Cymru KESS 2 Penny Dowdney ar +44(0)1248 382266 neu anfon e-bost at p.j.dowdney@bangor.ac.uk.



RECOMMENDED STORIES

Inspire Education: Moulding tomorrow’s aged care workers

| Oct 07 | 4 minutes read

Upskill with a Nottingham EMBA while maintaining a demanding career

| Dec 22 | 3 minutes read

Solve new challenges with a Melbourne Business School MBA

| Dec 17 | 5 minutes read

About U2B
Advertise with us
Follow us
EDUCATION FOR CAREERS
EDUCATION FOR CAREERS

Executive Education
CPD
EdTech
Research Collaborations
Advice

EdTech 2020 Whitepaper
About U2B
Advertise with us
Follow us
EdTech 2020
Download whitepaper
EDUCATION FOR CAREERS
Bringing you the latest news, trending topics and continuing professional education advice about online learning institutions worldwide.
Get Tenders to your inbox
Follow us
About U2B
About
Advertise with us
Contact
Careers
Follow us
About U2B
About
Advertise with us
Contact
Careers
Study International | Tech Wire Asia | TechHQ
Study International |
Tech Wire Asia |
TechHQ
© 2019 Hybrid. All rights reserved
Privacy Policy